NEWYDDION
DIOGELWCH TÂN GWYLLT
Gwybodaeth i’r Cyhoedd (Oedolion & Phlant)
Am fwy o wybodaeth cliciwch ymlaen i www.dti.gov.uk
Mae cael tân gwyllt gartref yn medru bod yn hwyl, cyn belled eu bod yn cael eu defnyddio yn ddiogel. Mae ffigyrau yn dangos fod mwy o blant yn cael anafiadau oddiwrth tân gwyllt nag oedolion. Dros y pum mlynedd diwethaf mae dros 350 o blant oed meithrin, rhai dim ond yn flwydd oed, wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau tân gwyllt.
Gwell diogelu na difaru
Mae tân gwyllt yn ddiogel os ydych yn eu defnyddio yn gywir. Os ydych am roi arddangosfa adref, yna dylech ddilyn camau syml i sicrhau fod pawb yn mwynhau heb cael anaf.
Cadwch plant yn ddiogel
Mae plant yn mwynhau tân gwyllt, ond mae’n rhaid iddynt wybod fod tân gwyllt yn gallu body n beryglus, os nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir. Pob blwyddyn, mae dros hanner yr holl anafiadau tân gwyllt yn digwydd i blant. Mae gan yr Child Accident Prevention Trust mwy o wybodaeth ar sut i gadw plant yn ddiogel.
Diogelwch ffyn gwreichion (sparklers)
Wyddoch chi fod ffyn gwreichion yn poethi pum gwaith yn fwy nag olew coginio? Nid tegannau ydi ffyn gwreichion a ni ddylsent cael eu rhoi i blant o dan pump oed.
Ble i brynu?
Peidiwch a thori corneli i arbed ychydig o bunnoedd. Prynwch dân gwyllt o siop ag enw da i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r Safon Brydeinig. Mae hyn yn golygu y fod BS 7114 i fod wedi ei ysgrifennu ar y bocs.
Weithiau, bydd siopau yn agor am amser byr iawn cyn Noson Tân Gwyllt ond efallai nid y siopa yma yw’r gorau i brynu tân gwyllt. Mae’n debygol na fydd y gweithwyr yn y siopau hyn yn wybodus am ddefnyddio tân gwyllt yn ddiogel ag efallai ni fydd y tân gwyllt yn cydymffurfio gyda’r Safon Prydeinig.
Beth bynnag fyddwch yn ei wneud, peidiwch a phrynu tân gwyllt o unryw le nad ydych yn sicr ohono, e.e o gefn fan neu gan werthwr stondin farchnad dros dro heb drwydded.
Beth i brynu?
Mae yna gategorïau gwahanol o dân gwyllt. Mae aelodau o’r cyhoedd yn medru prynu a chynnau y mwyafrif o dân gwyllt oddi-tan Categorïau 1 i 3. Mae’r rhain yn dân gwyllt y medrwch eu defnyddio yn y ty, yn yr ardd neu mewn arddangosfa. Darllenwch y paced yn ofalus bob tro a gwnech yn siwr fod y tân gwyllt yr ydych am brynu yn addas ar gyfer lle byddwch yn eu cynnau.
Tân gwyllt proffesiynol
Mae rhai tân gwyllt ond yn gallu eu prynnu au defnyddio broffesiynnwyr. Mae’r rhain yn cynnwys: ‘air bombs’; ‘aerial shells’, ‘aerial maroons’, ‘shells-in-mortar’ a ‘maroons-in-mortar’; pob banger; rocedi bach;; a than gwyllt gyda hediad eratig; rhywfaint o dân gwyllt Categori 2 a 3 sydd yn fwy na maint penodol; a bob tân gwyllt Categori 4.
|
|
|
Cynnau tân gwyllt
Dim ond un person dylai fod yn gyfrifol and dân gwyllt. Os mai chi yw hwnw, gofalwch eich bod yn cymeryd y gofal priodol. Darllenwch y cyfarwyddiadau mewn golau dydd a peidiwch ag yfed alcohol tan mae’r tân gwyllt wedi eu gorffen. Gwnewch eich paratoadau o flaen llaw, ag yng ngolau dydd. Ar y noson, fe fyddwch angen...
• tortsh
• bwced neu ddau o ddwr
• offer amddiffyn llygaid a menig
• bwced o bridd i roi’r tân gwyllt ynddo
• postyn cynnal a lansiwr addas os ydych am gynnau olwyn catherine new rocedi.
Arddangosfeydd tân gwyllt
Os ydych yn trefnu arddangosfa tân gwyllt ar gyfer y cyhoedd, mae gan y DTI mwy o wybodaeth ar sut i drefnu arddangosfa tân gwyllt diogel a llwyddiannus - clciwch yma
Gwarchod eich anifeiliaid
Dylech ofalu eich bod yn cymeryd y camau priodol i warchod eich anifeiliaid yn ystod amser yma y flwyddyn pan fyddai tân gwyllt yn cael eu cynnau. Mae’r DTI wedi paratoi gwybodaeth pellach ar warchod eich anifeiliaid - cliciwch yma
Mae hi yn drosedd i gynnau tân gwyllt rhwng 11yh a 7yb, ag eithrio ar Noson Tân Gwyllt (hanner nos), Diwali, Blwyddyn Newydd, a Blwyddyn Newydd Tsieineaidd (1yb). Mae hi yn erbyn y gyfraith i gario tân gwyllt yn gyhoeddus os ydych o dan 18.
Mae hi’n erbyn y gyfraith i daflu neu cynnau tân gwyllt yn y stryd.
Ni ddylai tân gwyllt cael eu gwerthu i unrhyw un o dan 18. |
|
|