NEWYDDION
Galwyr ffug: Rhybudd heddlu
Mae'r heddlu yn rhybuddio pobl yng Nghaernarfon i fod ar eu gwyliadwraeth oherwydd galwyr ffug.
Bu dau ddyn oedd yn esgus eu bod o'r cyngor yn nhai pobl oedrannus yn ardal Hendre tua 2pm ddydd Llun.
Cafodd arian ei ddwyn o nifer o dai, gan gynnwys oddi wrth berson 82 oed.