CSN logo csngwynedd.org Map Cymru
 
CSN Gwynedd - English Language Website Croeso i CSN Gwynedd Newyddion CSN Gwynedd Amdan CSN Gwynedd Cyngor gan CSN Gwynedd CSN Gwynedd Gwybodaeth Eich barn chi
 
 

Prif Stori Heddiw:   - Galwyr ffug: Rhybudd heddlu ...mwy
- Arolwg Defnyddwyr...mwy

 
Aelodau:
   

Aelodau - Logos Linc i wefan Cyngor Gwynedd Linc i wefan GISDA Linc i wefan CAB Linc i wefan Age Concern Linc i wefan Canolfan Felin Fach

NEWYDDION
Scam Loteri Sbaeneg

Mae Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn rhybuddio aelodau o’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o gynigion twyllodrus sy’n ymddangos fel eu bod yn dod gan gwmnïau loteri.

Mae’r cwmnïau loteri yn anfon, llythyrau yn rhoi gwybod i aelodau’r cyhoedd, gan honni eu bod wedi ennill swm fawr o arian.
cliciwch yma i weld copi o'r llythyr

Dywedodd John Reynolds, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (Safonau Masnach) Cyngor Gwynedd:

“Mae’n annhebygol iawn fod y cystadlaethau loteri yma yn ddilys. Mae’n fwy tebygol nad oes dim gwobr ariannol ar gael ac, wrth ymateb i’r llythyr , gallech fod ar eich colled”.

Mae nifer o ddefnyddwyr wedi adrodd eu bod wedi derbyn post gan gwmnïau loteri o’r tu allan i Brydain, yn aml o Sbaen, dan yr enw cwmni loteri “El Gordo de la Primitiva” ym Madrid, neu “Euromillions”. Nid yw’r un o’r cwmnïau yma yn gysylltiedig gyda’r loteri swyddogol yn Sbaen, sef yr “El Gordo Lottery”. Dylid nodi hefyd mai dim ond preswylwyr Sbaen sy’n cael cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Cofiwch y cyngor yma os nad ydych chi’n sicr i hawlio eich ‘gwobr’:

Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi anfon ‘ffi gweinyddol’ bychan cyn i chi allu hawlio eich gwobr. Ni fyddai loteri dilys yn gofyn am arian yn y lle cyntaf;

  • Maent yn dweud mai dim ond ychydig o amser sydd gennych i hawlio’ch gwobr. Byddai loteri dilys yn rhoi amser estynedig penodol i chi hawlio’ch arian;
  • Mae gofyn i chi ffonio rhif ffon cyfradd uchel, a gofyn i chi ddarparu manylion banc. Mi fydd cwmni dilys yn gofyn am hyn;
 


  • Er efallai y byddwch yn teimlo fod hwn yn gynnig rhy dda i’w fethu, dylech wastad ystyried pam eich bod yn derbyn post digymell gan gwmni o Sbaen pan nad ydych chi erioed wedi prynu ticed loteri o Sbaen;
  • Os ydyw yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, fel arfer mae o.
  • Mae’n bosib na fydd rhai cwmnïau loteri yn gofyn am arian yn y lle cyntaf. Mae rhain yn tueddu i ofyn i chi gadarnhau eich manylion dros y ffon, trwy ffacs neu bost neu drwy anfon prawf o adnabyddiaeth. Yn naturiol mae pobl yn tueddu i feddwl fod hyn yn loteri dilys os nad ydy’r cwmni yn gofyn am fanylion banc neu’n gofyn am arian. Ond, mae’n debyg iawn y byddwch yn derbyn llythyr neu alwad pellach gan y cwmni, yn gofyn i chi anfon arian tuag at ffi gweinyddol fel y gallid rhyddhau eich gwobr. Wrth gwrs os byddai hwn yn loteri dilys ni fyddai gofyn i chi anfon unrhyw arian gan fod rhan fwyaf o wobrau yn rhydd o dreth.

Os ydych chi eisiau osgoi y math yma o ‘wobrau’ twyllodrus, dylech gofio:

  • Peidiwch ag anfon unrhyw arian i’r cwmnïau yma, a pheidiwch a darparu unrhyw fanylion banc, hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer “adnabyddiaeth” y maent eu hangen nhw.

Mae rhagor o gyngor ar gael gan Cyswllt Defnyddwyr Cymru, neu gan eich Uned Safonau Masnach leol.

allwch gysylltu gyda Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 040505, neu 08454 040506 (llinell Saesneg). Mae llinellau ar agor o 8am hyd 6.30pm o ddydd Llun i Gwener, ac o 9am hyd 1pm ar ddydd Sadwrn. Mae’r galwadau yn costio’r un fath a galwadau lleol, ac mae’r cyngor a dderbyniwch yn rhad ac am ddim.

     
 
 
E-bostiwch ni Anfon linc i ffrind   Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
E-bostiwch ni
Anfon linc i ffrind
 
Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
 
 
 
   
 
post@csngwynedd.org
 
 
Dylunwyd gan delwedd.co.uk