NEWYDDION
Gweithio-o-Adref
Hysbysebion sydd yn gado incwm mawr am waith minimol - fel stwffio amlenni, cydosod gwaith crefft, neu unrhyw waith arall yw sgamiau gweithio-o-adref. Mae’r hysbysebion yn gwneud ceisiadau tebyg, arian sydyn, gwaith minimol, dim risg gyda’r fantais o weithio o adref pryd mae’n gyfleus i chi.
Nid ydynt yn dweud wrthych efallai fydd rhaid i chi weithio nifer o oriau heb dal, neu dalu costau cudd i roi hysbyseb mewn papur newydd, gwneud llungopïau, neu brynu cyflenwad meddalwedd neu offer i wneud y gwaith. Unwaith yr ydych yn ychwanegu eich amser ag arian eich hun, fe all eich hyrwyddwyr wrthod eich talu, neu honni fod eich gwaith ddim yn cyfarfod eu safonau ansawdd. Neu fe allwch ddarganfod nad oes gwaith yn cael eu cynnig, dim ond comisiwn am gael pobl eraill i arwyddo i’r cynllun.
|
|
|
Fe ddylai hyrwyddwyr cyfreithlon o fusnesodd gweithio-o-adref ddweud wrthych mewn ysgrifen beth yn union sydd yn ymglymedig yn y rhaglen. Cyn I chi draddodi unrhyw arian, darganfyddwch:
• Pa dasgau fydd rhaid i chi berfformio
• Pa un ai a chyflog neu weithio ar gomisiwn y byddwch
• Pwy fydd yn eich talu
• Pryd fyddwch yn cael eich taliad cyntaf
• Cyfanswm y gost o’r rhaglen (gan gynnwys cyflenwad, offer a ffioedd aelodaeth)
• Beth fyddwch chi yn ei gael am eich arian
• A oes modd gwirio gwybodaeth gan weithwyr presennol?
|
|