NEWYDDION
‘Peidiwch a delio gyda siarcod benthyg’
Mae pobl sydd angen benthyg arian yn cael eu hannog i gymryd mantais o wasanaeth cyngor dyled am ddim cyn gwneud y dewis i ddelio gyda siarcod benthyg (loan sharks).
Mae Ian McCartney Gweinidog Defnyddwyr wedi agor swyddfa newydd yn Llundain ar gyfer y Money Advice Trust (MAT), sydd yn rhedeg yr National Debtline. Fe ddywedodd fod llawer o bobl yn ymwybodol for cefnogaeth ddiduedd ac am ddim ar gael i’w cynorthwyo i osgoi problemau dyledion.
Fe ddywedodd y Gweinidog, sydd wedi ymweld â’r timau gwrth-siarcod benthyg sydd yn cael eu rhedeg gan Safonau Masnach Glasgow a Birmingham yn yr wythnosau diwethaf, ‘Often, it feels like there is no alternative than to turn to loan sharks but many people don’t realize that debt advice and information is available for free. National Debtline is there to help.’
Llinell gymorth genedlaethol ar gyfer pobl gyda phroblemau dyled yn Lloegr, yr Alban a Chymru yw’r National Debtline. Mae’r gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol.