CSN logo csngwynedd.org Map Cymru
 
CSN Gwynedd - English Language Website Croeso i CSN Gwynedd Newyddion CSN Gwynedd Amdan CSN Gwynedd Cyngor gan CSN Gwynedd CSN Gwynedd Gwybodaeth Eich barn chi
 
 

Prif Stori Heddiw:   - Galwyr ffug: Rhybudd heddlu ...mwy
- Arolwg Defnyddwyr...mwy

 
Aelodau:
   

Aelodau - Logos Linc i wefan Cyngor Gwynedd Linc i wefan GISDA Linc i wefan CAB Linc i wefan Age Concern Linc i wefan Canolfan Felin Fach

NEWYDDION
Rhybudd Troseddwyr Drws i Ddrws yn yr Haf

Mae’r gwyliau haf bron a’n cyrraedd ni - a gyda hwy fe ddaw pla o alwyr wrth y drws heb wahaddiad yn trio dwyn perswâd ar bobl i wario eu harian, rhybuddai’r TSI (Trading Standards Institute).
Yn ôl Sarah Smith, swyddog arweiniol y TSI ar sgamiau, y cyfnod rhwng diwedd Mehefin tan mis Medi yn ôl traddodiad yw’r man poeth neu ‘hotspot’ am gwynion am alwyr wrth y drws.
Mae ffigyrau gan Gyswllt Defnyddwyr - gwasanaeth wedi ei gefnogi gan y Llywodraeth i gynghori defnyddwyr ar y ffon ac ar-lein sydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau safonau masnach awdurdodau lleol - yn dangos fod mwy na 8,600 o bobl wedi galw llynedd i gwyno am alwyr heb wahoddiad yn cynnig gwerthu nwyddau neu wasanaethau wrth y drws.
Y mis gwaethaf am gwynion yw Awst (877 o gwynion llynedd), yna mis Medi (831) a Gorffennaf (794).
Yn gyffredinol, cwynion am gangiau palmentydd a greodd y nifer fwyaf o gwynion (865 mewn blwyddyn), ac yn dilyn yn agos cwynion am alwyr yn cynnig gwneud gwaith adeiladu cyffredinol (616), gwaith toi (536), ffenestri dwbl, cafnau bondo, ffasgiâu a garddio.


 



Hefyd yn bresennol yn y deg uchaf oedd galwyr heb wahoddiad yn cynnig gwasanaethau trydan a ffon.

‘Mae ein neges yn syml’ meddai Sarah, mae’n rhaid cau y drws ar alwyr heb wahoddiad’.
Fe ddywedodd Carol Brady, Rheolwr Gweithredol Cyswllt Defnyddwyr “Cyn i chi wario unrhyw faint o’ch arian prin ar drothwy'r drws, gofynnwch I Gyswllt Defnyddwyr am gyngor. Mae llawer o bobl yn arwyddo cytundeb ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ac yna yn difaru.
‘Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawliau i ganslo i fyny at saith diwrnod wedi i chi arwyddo cytundeb, ond weithiau mae hi yn well cymryd ychydig o amser i ystyried unrhyw gynnig cyn ei dderbyn gan fod siawns efallai bydd modd arbed amser ac arian i chi eich hun.
Os ydych yn pryderu am weithgareddau pobl sydd yn galw wrth y drws yn eich ardal chi ac os ydych yn poeni am gymdogion hyn a bregus yn cael eu targedu, yna mae modd i chi gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar 08454 040505 neu eich gwasanaeth Safonau Masnach leol i gael cyngor.

 

     
 
 
E-bostiwch ni Anfon linc i ffrind   Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
E-bostiwch ni
Anfon linc i ffrind
 
Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
 
 
 
   
 
post@csngwynedd.org
 
 
Dylunwyd gan delwedd.co.uk