CSN logo csngwynedd.org Map Cymru
 
CSN Gwynedd - English Language Website Croeso i CSN Gwynedd Newyddion CSN Gwynedd Amdan CSN Gwynedd Cyngor gan CSN Gwynedd CSN Gwynedd Gwybodaeth Eich barn chi
 
 

Prif Stori Heddiw:   - Galwyr ffug: Rhybudd heddlu ...mwy
- Arolwg Defnyddwyr...mwy

 
Aelodau:
   

Aelodau - Logos Linc i wefan Cyngor Gwynedd Linc i wefan GISDA Linc i wefan CAB Linc i wefan Age Concern Linc i wefan Canolfan Felin Fach

NEWYDDION
Galwyr Ffug & Masnachwyr Carreg Drws Cnaf

Mae galwyr ffug yn dwyll-ddyn (neu ddynes) sydd yn defnyddio amrywiaeth o straeon i ennill mynediad i gartref person er mwyn cael dwyn. Maent yn cogio i fod yn alwr swyddogol o awdurdod lleol neu o rywle fel “y Bwrdd Dwr”. Maent yn rhoi esgus da iawn ar gyfer yr angen i gael mynediad i’ch tŷ. Maent fel rheol yn gweithio fesul pâr a tra bydd y galwr wrth y drws yn cadw chi yn brysur mi fydd y llall wedi mynd i mewn i’r tŷ i ddwyn arian a phethau gwerthfawr eraill.

Mae Masnachwyr Carreg Drws Cnaf yn bobl sydd yn cymryd ar i fod yn adeiladwyr, garddwyr neu weithwyr atgyweirio sydd eisiau gwneud atgyweiriadau ‘brys’ neu waith arall i’r tŷ neu ardd. Yn aml maent yn gwasgeddu deiliaid i gytundeb drwy fwlio, phryderu a phoeni neu yn syml drwy gychwyn ar waith. Mae’r gwaith a wnaed yn aml o safon isel, heb ei orffen ac/neu yn ddianghenraid. Mae’r pris a godwyd ar y gwaith yn aml yn fwy na’r pris a ddyfynnwyd yn wreiddiol. Yn aml yr unig fanylion cyswllt a geir yw rhif ffôn symudol ac mae hi yn amhosib olrhain nhw eto.

Y ffordd gorau i osgoi'r math yma o broblemau yw peidio a delio gydag unrhyw berson sydd yn galw yn eich cartref. Peidiwch a phrynu Nwyddau neu wasanaethau gan unrhyw un sydd yn galw heb wahoddiad wrth y drws.

COFIWCH:
• eich cartref chi yw e
• chi sydd yn rheoli
• mi fedrwch ddweud na!

 

 


Cyngor Ymarferol ar sut i gynorthwyo chi eich hunain a hefyd eich perthnasau, ffrindiau a chymdogion

  • Cofiwch gau a chloi eich drws cefn cyn ateb y drws ffrynt
  • Defnyddiwch dwll sbïo neu ffenestr i edrych ar y galwr cyn ateb y drws. Os nad ydych y eu hadnabod siaradwch a hwy drwy ddrws wedi ei gau ac ar glo
  • Peidiwch a phrynu nwyddau neu wasanaethau gan unrhyw un sydd yn galw wrth y drws
  • Os yw’r galwr yn gwerthu rhywbeth neu yn cynnig gweithio ar y tŷ neu ardd dywedwch nad oes gennych ddiddordeb a gofynnwch iddynt adael
  • Os nad ydynt yn gadael dywedwch wrthynt eich bod am alw’r heddlu
  • Galwch yr heddlu os nad ydynt yn gadael neu os oes angen cymorth arnoch – deialwch 999
  • Peidiwch a gadael unrhyw un i mewn i’ch cartref heb gadarnhau eu hunaniaeth – gofynnwch am brawf o hunaniaeth bob amser. Cymerwch ef gan y person (drwy’r bocs llythyrau) a darllenwch ef yn ofalus
  • Ffoniwch y cwmni neu’r sefydliad o ble mae’r galwr yn honni i fod yn perthyn (defnyddiwch y rhif yn y llyfr ffôn) i gadarnhau eu hunaniaeth
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth – cadwch nhw allan!
  • Dywedwch wrth rywun yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi a, alwyr heb wahoddiad wrth eich drws
  • Defnyddiwch gymydog, perthynas neu ffrind fel ‘Ffrind Enwebedig’ i ailgyfeirio galwyr at rywun a wnaiff ddelio a hwy ar eich rhan
  • Os ydych angen cael gwaith wedi ei wneud mynnwch gael dyfyniadau gan gwmnïau cyfrifol gyda modd cadarnhau eu cyfeiriadau
  • Trefnwch apwyntiadau i bobl alw pan fyddwch yn gwybod y bydd rhywun arall gyda chi yn gwmni

Am ragor o gyngor neu i wneud adroddiad am unrhyw ddigwyddiad yna cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 04 05 05 neu Safonau Masnach Gwynedd ar 01286 682728 / safmas@gwynedd.gov.uk

     
 
 
E-bostiwch ni Anfon linc i ffrind   Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
E-bostiwch ni
Anfon linc i ffrind
 
Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
 
 
 
   
 
post@csngwynedd.org
 
 
Dylunwyd gan delwedd.co.uk