NEWYDDION
Rhybudd i’r cyhoedd am ‘fodca’ anghyfreithlon peryglus
Yn dilyn cyrch ar ffatri cynhyrchu alcohol anghyfreithlon yng Nghaerdydd ar Ddydd Gwyl Dewi (1/3/07), mae Safonau Masnach Caerdydd wedi cymryd sampl o’r gwirod i asesu gwir natur cynnwys y poteli.
Mae canfyddiadau cynnar o’r dadansoddiad yn dangos alcohol gyda chryfder diwydiannol gyda chynnwys methanol llawer uwch nag a ganiateir. Byddai, felly yn gwneud difrod garw i iechyd pobl.
Mae canfyddiadau cynnar yn dangos fod peth o’r cynnyrch wedi gadael y ffatri ar gyfer ei ddosbarthu.
|
|
|
Dywedodd John Reynolds o Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn gofyn i’r cyhoedd a masnachwyr ar draws de Cymru a thu hwnt i fod yn wyliadwrus o’r brand hwn o ‘Fodca’. Nid Fodca ydyw, ac ni ddylid ei yfed.
“Os oes gan unrhyw un ‘1806 Christoff 100% Pure Vodka’ yn eu meddiant, neu os ydynt yn ymwybodol o unrhyw un sydd gyda pheth ohono, gofynnwn yn garedig ichi gysylltu â Safonau Masnach Gwynedd ar 01286 682728 neu Safonau Masnach Caerdydd ar 029 20872059.”
|
|