NEWYDDION
System Labeli Bwyd Newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yn ddiweddar fe welwyd lansio’r cam nesaf o weithgareddau parhaus yr ASB i wneud hi yn hawdd i bobl wneud penderfyniadau bwyd mwy iach. Mae’r labeli cod-lliwiau goleuadau traffig ar flaen pecynnau - sydd wedi eu hymchwilio a datblygu gan yr ASB - ar hyn o bryd yn cael eu harddangos mewn hysbyseb teledu, yn y wasg, mewn safleoedd posteri ac ar y we.
Mae nifer o elusennau iechyd a sefydliadau defnyddwyr yn ymuno gyda’i gilydd i gefnogi agwedd yr ASB tuag at labeli bwyd maethol.
Mae labelu bwydydd cymhleth fel prydau parod, pastai a phitsas gyda gwybodaeth maethol clir a gonest yn gam pwysig tuag at cynorthwyo i wella diet y genedl. Mae argymhellion yr ASB ar gyfer labeli maethol wedi eu selio ar ymchwil cyhoeddedig defnyddwyr grymus ymgynghoriad ymestynnol. Fe ddangosodd hyn fod y labeli cod-lliwiau goleuadau traffig yn allweddol i roi help llaw i siopwyr i ddewis cynnyrch iachus yn gynt a hawdd.
Mae’r dull labelu goleuadau traffig yn un syml ac yn hawdd i'w ddefnyddio gyda choch yn golygu bod y cynnyrch yn uchel mewn braster/braster dirlawn/siwgr/halen, mae golau melyn yn golygu ei fod yn gymedrol ac un gwyrdd yn golygu isel.