NEWYDDION
Mae’r SMT (OFT) yn lansio Ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau yng Nghymru
Cymru mewn ymgyrch i fod yn fwy craff yn erbyn sgamwyr
Ar ddydd Gwener yr 2il o Chwefror fe welwyd lansio ymgyrch ymwybyddiaeth sgamiau yng Nghymru mewn cais i amlygu’r technegau a ddefnyddir gan sgamwyr i dwyllo defnyddwyr y DU o £3.5biliwn bob blwyddyn.
Mae’r ymgyrch, sydd yn rhedeg yn ystod wythnos y 22ain o Chwefror, yn anelu i roi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sydd angen i adnabod, adrodd a dileu sgamiau marchnata torfol.
Y rhai mwyaf cyffredin ar hyn o bryd yw:
1. Clybiau gwyliau ffug
2. Sgamiau gwobrau a swîp
3. Sgamiau gwyrthiau iechyd ac iachâd colli pwysau
4. Llythyrau clirweledyddion
5. Loterïau tramor ffug
Am y tro cyntaf mae’r SMT (OFT), mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Safonau Masnach awdurdodau lleol a Chyswllt Defnyddwyr, yn lansio ymgyrch wedi ei dargedu yng Nghymru.
Mi fydd uchafbwyntiau’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion radio rhanbarthol, a sioe ar y ffordd mewn canolfannau siopau. Mi fydd yna hefyd ymgyrch fawr yn amgylchynu’r sgamiau loteri a gwobrau/swîp ‘prize draws’ yn ymglymu preswylwyr Cymru yn uniongyrchol. Mae manylion o’r digwyddiadau cynlluniedig ac astudiaethau achos ar gael drwy gais gan yr SMT (OFT).
|
|
|
Mae ymchwil diweddar gan y SMT (OFT) yn datgelu fod un mewn bob pymtheg o bobl (3.2 miliwn o oedolion) yn dioddef o achos sgam bob blwyddyn drwy gydol y DU. Mae bob person yn colli tua £850 ar gyfartaledd i sgamiau.
• Mae preswylwyr Cymru yn cyfrif am 9 y cant (9%) o ddioddefwyr sgamiau yn y DU. Mae Cymru yn cyfrif am un deg tri'r cant (13%) o dargedau a dioddefwyr dwyll o sgamiau gwyrthiau iechyd y DU, un ar ddeg y cant (11%) o sgamiau buddsoddiadau eiddo ac un ar ddeg y cant (11%) o sgamiau gwerthu pyramid/llythyrau cadwyn).
Dywedir Mike Haley, pennaeth Scambusters yn y SMT (OFT):
'Scammers are finding more ruthless and sophisticated ways to con the public of money by preying on their hopes and fears. This campaign is an attempt to get smart against the scammers who are ruining residents' lives in Wales. Scams affect not only individual victims, but their families and communities, and can lead to debt, depression and health problems. Though anybody can be conned, it is always the most vulnerable who end up suffering the most.'
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar www.oft.gov.uk
|
|