Llythyrau Sothach
Os ydych yn deheu i gael lleihau derbyn llythyrau sothach, yna dyma rywfaint o wybodaeth cyswllt:
The Mailing Preference Service Freepost 29 LON20771 London, W1E 0ZT
Ffôn: 0845 7034599 Gwefan: www.mpsonline.org.uk
Royal Mail Door to Door Opt-Out, Room 130, Wheatstone House, Wheatstone Road, Swindon, SN3 5JN
Gadewch a leiaf pedwar mis cyn i chi weld gostyngiad yn y post yr ydych yn ei dderbyn. Rhowch rybudd yn y ffenestr wrth eich blwch llythyrau i ddatgan nad oed croeso i daflenni.
Ebost a Negeseuon Testun
Mae’n ofynnol nawr i gwmnïoedd sydd yn gyrru e-bost neu neges testun gael caniatâd y derbynnydd gyntaf, o dan reolau wedi eu cyhoeddi gan yr Advertising Authority.
Mae’r cod ymarfer newydd yn datgan y dylai caniatâd echblyg gael ei roi ar gyfer marchnata drwy e-bost neu neges testun. Mae’n rhaid i hysbysebion e-bost digymell (spam) hefyd fod wedi ei farcio’n glir er mwyn i'r derbynyddion wybod beth yw e cyn ei agor.
Pe byddwch yn dymuno gwneud cwyn am hysbyseb penodol gan gynnwys hysbysebion teledu a radio, yna paratowch ddisgrifiad byr o’ch cwyn mewn ysgrifen gan gynnwys copi o’r hysbyseb os yn bosibl i:
Advertising Standards Authority, Mid City Place, 71 High Holburn, London, WC1V 6QT
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i gwyno ar-lein, rhaid ymweld â www.asa.org.uk
|