CSN logo csngwynedd.org Map Cymru
 
CSN Gwynedd - English Language Website Croeso i CSN Gwynedd Newyddion CSN Gwynedd Amdan CSN Gwynedd Cyngor gan CSN Gwynedd CSN Gwynedd Gwybodaeth Eich barn chi
 
 

Prif Stori Heddiw:   - Galwyr ffug: Rhybudd heddlu ...mwy
- Arolwg Defnyddwyr...mwy

 
Aelodau:
   

Aelodau - Logos Linc i wefan Cyngor Gwynedd Linc i wefan GISDA Linc i wefan CAB Linc i wefan Age Concern Linc i wefan Canolfan Felin Fach

NEWYDDION
10 Prif Sgam Cyfredol

Isod gweler y 10 Prif sgâm a dderbyniwyd cwynion am:
1. Rhybudd E-bost
Sgamiau yn honni i fod gan eich banc ac yn gofyn am fanylion eich cyfrif. Nid gan eich banc mae hwn ac unwaith mae mynediad llawn ganddynt, mi wnawn fynd a’ch arian
2. E-bost neu lythyr o dramor
Yn honni i fod wedi ei yrru gan blentyn 15 oed ble mae ei dad newydd farw. Mae’r llythyr yn gofyn am fanylion cyfrif i symud enillion amheus. Unwaith datgelwch fanylion eich cyfrif, mi wnawn fynd a’ch arian
3. Cystadleuaeth
Yn dweud eich bod wedi ennill gwobr ac yn dangos rhif gwobr clustnodedig. Mae’r rhai diweddaraf gyda rhif ffôn graddfa premiwm ac mae’n rhaid gwario arian i brosesu’r cais. Heb os, mae be dderbynnir yn ddi-werth i ran fwyaf o bobl.
4. Galwad ffôn o Ganada
Yn dweud eich bod wedi ennill y loteri genedlaethol a bod angen arian i brosesu eich cais. Maent yn cymryd eich arian bob yn dipyn. Mae son am gwpwl o Brydain oedd wedi talu dros £60,000 cyn sylwi mai sgâm oedd yr alwad.
5. Sgamiau Rhyngrwyd (deialwyr Trojan)
deialwr gwalch sydd yn dargyfeirio eich llinell ffon o’ch darparwr Rhyngrwyd arferol i linell ffon graddfa premiwm - drwy focs pop-up fel rheol. Mae’n arallgyfeirio eich ffon i wledydd fel Affrica a De Pasiffig ac yn medru costio cannoedd.
6. Cynllun pyramid (anelir at ferched yn unig ran fwyaf)
Gofynnir i chi anfon arian at enwau ar restr, tynnu ffwrdd un enw ac ychwanegu un chi at y rhestr ag yna ymlacio a disgwyl i’r arian lifio i mewn! Neu ddim!
7. Profion twyll cardiau credyd ffug
Fe gewch alwad ffôn gan rywun yn honni i fod o Adran twyll eich cerdyn. Dim ond i wirio pryniadau neilltuol yw rhai chi - rydych yn rhoi eich manylion iddynt ac maent yn archebu nwyddau yn eich enw.
8. Cofrestru diogelwch data
Am eich busnes, yn gofyn am £95. Does dim angen i ran fwyaf o fusnesodd gofrestru ond mae modd gwneud yn uniongyrchol am £35. Mae’r bobl yma nawr yn cynnig pecyn cydymffurfio Iechyd a Diogelwch - ond tro yma yn gofyn am dros £200. Mae modd prynu’r pecyn yma eich hun am £10.
9. Enwau parth
Wedi ei anelu at fusnesodd bach. Yn honni bod eich hawl at rhai enwau ar y Rhyngrwyd mewn perygl. Mae’n rhaid i chi dalu am ddefnydd cyfyngedig. Rydych yn rhoi manylion eich cerdyn credyd ac mae’r galwr yn archebu nwyddau yn eich enw.

 


10. Cyfeirio amlenni
Hysbysebion yn cynnig gwaith i chi yn cyfeirio amlenni ac yn gofyn i chi ddanfon arian i gofrestru - peidiwch. Does dim gwaith, dim ond cynllun i chwi roi hysbyseb eich hun i ddenu pobl eraill i ymuno a’r cynllun. Rydych yn cael eich talu am ei manylion nhw.

Awgrymiadau ar sut i osgoi dioddef o sgam
Isod gweler awgrymiadau sylfaenol ar sut i ddiogelu eich hun rhag sgamiau:
1. Peidiwch a rhoi eich manylion personol i unrhyw un sydd yn cysylltu â chi. Os oes angen, darganfyddwch eu rhif a ffonio nhw i wirio eu hadnabyddiaeth. Os na'r banc sydd yna, maent mewn sefyllfa i roi eich manylion i chi.
2. Peidiwch ag anfon arian i unrhyw un sydd yn cysylltu â chi i ddweud eich bod wedi ennill gwobr. Os nad ydych yn ymwybodol eich bod wedi trio mewn cystadleuaeth, mae’n debyg iawn mai sgâm ydyw.
3. Rhwystrwch rifau ffôn cyfradd premiwm. Mae’n bosibl gofyn i ddarparwr y llinell i atal eich llinell rhag cael mynediad. (Ni wnaiff hyn atal troseddwyr rhag defnyddio rhifau o dramor).
4. Rhwystrwch rifau ffôn rhyngwladol. Mae’n bosibl cael rhif PIN i godi’r gwaharddiad ac mae modd adfer y gwasanaeth am ffi fechan.
5. Mae modd atal dialwyr cnaf y Rhyngrwyd sydd yn dieithrio eu hunain fel ‘pop-ups’ drwy atal bob ‘pop-up’. I wneud hyn cysylltwch gyda'r darparwr gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP).
6. Gwnewch yn siŵr fod y rhif mae eich cyfrifiadur yn defnyddio i gysylltu chi gyda’r Rhyngrwyd yn gywir. Ydi o yn costio cyfradd leol? Os ydych yn darganfod fod y rhif wedi newid, gwiriwch y rhif yn syth gan addasu'r gosodiad - fel arall mae modd i’r tal godi i gymaint â £40 am bob munud.
7. Peidiwch a darllen hysbysebion amheus ar y Rhyngrwyd. Mae deialwyr cnaf yn medru dieithrio eu hunain fel gemau, atodion e-bost neu lawr lwyth. Os ydych yn derbyn neges amheus, peidiwch a’i anwybyddu, ceisiwch gau’r ffenestr can bwyso’r botymau ‘ctrl’ a ‘w’ ar unwaith.
8. Cadwch eich meddalwedd gwrth-firws yn gyfoes. Mae modd medru lawr lwytho meddalwedd am ddim sydd yn medru sganio eich disg caled a glanhau firysau o’ch CP (PC)
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich effeithio gan dwyll neu sgam ac am roi gwybod i rywun, yna cysylltwch â Safonau Masnach Gwynedd ar 01286 682728 neu safmas@gwynedd.gov.uk

     
 
 
E-bostiwch ni Anfon linc i ffrind   Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
E-bostiwch ni
Anfon linc i ffrind
 
Nodi'r dudalen yma
Argraffu'r tudalen yma
 
 
 
   
 
post@csngwynedd.org
 
 
Dylunwyd gan delwedd.co.uk