NEWYDDION
Cynghorion Siopa Nadolig
Mae’r tymor siopa Nadolig wedi hen ddechrau a dyma rai Cynghorion Siopa Nadolig i helpu siopwyr i osgoi unrhyw broblemau a chael y fargen orau.
CYN PRYNU A SUT I BRYNU
Dechreuwch siopa cyn gynted â phosib i gymryd mantais o’r seli cyn y Nadolig ac i gael digonedd o ddewis.
Pendefynwch faint yr ydych yn mynd i’w wario ar bawb ac ysgrifennwch restrau o bopeth yr ydych angen ei brynu. Cadwch at eich rhestrau a cheisiwch osgoi prynu ar chwiw.
Ewch o amgylch y siopau gan gymharu prisiau. Gall siopau gwahanol godi prisiau gwahanol am yr un eitemau. Mae hyn yn gyfreithlon. Gall hi fod yn annymunol iawn gweld rhywbeth yr ydych newydd ei brynu am bris llawer rhatach mewn siop arall.
Dylech brynu nwyddau gan werthwyr sydd ag enw da. Peidiwch â chael eich swyno gan nwyddau ffug. Mae dillad, CD’s, persawr, persawr eillio a fideos i gyd yn boblogaidd gan gynhrychwyr ffug. Edrychwch ar brisiau’r nwyddau – os yw’n rhy rhad mae’n debyg ei fod yn un o’r nwyddau ffug. Edrychwch ar ansawdd y pecynnu ac am gamgymeriadau sillafu.
Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw gynlluniau ffug yn enwedig gwefannau sy’n dweud “nid twyll mo hyn” – ‘does ddim angen i fasnachwyr da ddweud hyn.
CYNGHORION SIOPA
1. ANRHEGION
Pan fyddwch yn prynu anrhegion cofiwch gadw’r derbynebau rhag ofn y bydd problem a bod angen dychwelyd nwyddau.
Mae’n syniad da gwneud yn siŵr fod unrhyw anrhegion yn iawn cyn gynted ag yr ydych wedi eu prynu, yn hytrach na’u lapio ar unwaith gan y dylid dychwelyd unrhyw nwyddau diffygiol cyn gynted â phosib ar ôl eu prynu.
Nid oes unrhyw hawl cyfreithiol i dalu arian yn ôl neu i newid yr eitem os yw’r maint yn anghywir, bod y lliw neu’r math yn anaddas, neu os yw’n anrheg nad oeddech ei eisiau. Y prif eithriadau yw os yw’r gwerthwr wedi cytuno yn benodol i roi ad-daliad neu i gyfnewid neu ddychwelyd nwyddau ac i rai prynianau siopa cartref (gweler cyngor 9), ble gellid canslo nwyddau cyn pen saith niwrnod o’u derbyn.
Dylech wirio os oes gennych unrhyw hawliau ychwanegol ar ben eich hawliau cyfreithiol o dan bolisi ewyllys da’r gwerthwr.
2. POLISÏAU EWYLLYS DA
Tymor ewyllys da yw’r Nadolig, ac mae gan nifer o siopau bolisïau ewyllys da eu hunain. Golyga hyn eu fod yn barod i ad-dalu arian yn ddidrafferth, i roi nodyn credyd (sydd yn aml yn ddilys am 3, 6 neu 12 mis) neu yn gadael i chi gyfnewid nwyddau o fewn cyfnod penodol, hyd yn oed os nad ydynt yn ddiffygiol.
Holwch y siop i weld os oes ganddynt bolisi ewyllys da cyn prynu yno, yn enwedig os ydych yn prynu’r eitem i rywun arall. Bydd hyn yn helpu i osgoi problemau os nad yw’r eitemau yn addas.
3. DEDDF GWERTHIANT NWYDDAU
Dywed Deddf Gwerthiant Nwyddau fod yn rhaid i’r nwyddau fod:
• 'o ansawdd foddhaol' sy’n golygu ‘safonau y byddai unigolyn rhesymol yn eu hystyried yn dderbyniol’, gan ystyried y ffordd maent yn cael eu disgrifio, eu cost ac unrhyw amgylchiadau eraill perthnasol.
• 'yn addas i’w pwrpas', sy’n cynnwys unrhyw bwrpas penodol y soniwyd amdano gennych i’r gwerthwr, er enghraifft, os ydych yn prynu gêm cyfrifiadur a’ch bod yn dweud wrth y gwerthwr eich bod eisiau ei chwarae ar beiriant penodol, mae’n rhaid iddo fod yn gymhathus.
• 'fel a ddisgrifiwyd' ar y pecyn, arwydd arddangos neu gan y gwerthwr.
4. NWYDDAU DIFFYGIOL NEU RAI A GAM-DDISGRIFWYD
Os nad yw ansawdd y nwyddau yn foddhaol, neu os nad ydynt yn addas i’w pwrpas neu fel a ddisgrifiwyd, mae gennych yr hawl i’w dychwelyd a chael eich arian yn ôl, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod i’r siop eich bod eisiau dychwelyd y nwyddau mewn amser rhesymol. Er nad oes cyfyngiad amser penodol, y cyflyma yr ydych yn adrodd am y broblem yr hawsaf fydd hi i gael ad-daliad.
Nid oes raid i chi dderbyn nodyn credyd, talebau neu gynnig i drwsio’r nwyddau os ydynt yn ddiffygiol neu wedi eu camddisgrifio a’u bod wedi eu dychwelyd mewn amser rhesymol.
Fel arfer gydag anrhedgion, yr unigolyn a brynodd y nwyddau a ddylai fynd a hwy yn ôl ond yn ymarferol fel arfer bydd y gwerthwyr yn mynnu cael prawf prynu’r eitem – fel derbynneb. Er bod gennych yr un hawliau hyd yn oed os ydych yn colli’r dderbynneb, mae’n dystiolaeth ddefnyddiol sy’n dangos ble a phryd y prynwyd y nwyddau, er y gellid defnyddio cardiau credyd neu ddebyd hefyd fel prawf prynu.
5. CYNHYRCHWYR
Er bod y gyfraith yn dweud ei bod hi i fyny i’r gwerthwr i ddelio gyda chwynion am nwyddau diffygiol, efallai fod gennych hawliau ychwanegol o dan warant y cynhyrchwr. Fel arfer mae angen i chi anfon manylion fel eich enw, cyfeiriad a dyddiad prynu i’r cynhyrchwr i ddilysu’r warant felly os ydych eisiau’r diogelwch ychwanegol yma gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud popeth sydd ei angen.
6. NWYDDAU SÊL
Mae eich hawliau yn union yr un fath gyda nwyddau a brynir mewn sêl. Dylech anwybyddu unrhyw arwyddion sy’n dweud yn wahanol gan nad oes ganddynt unrhyw rym cyfreithiol. Yn wir, gall masnachwyr sy’n gosod yr arwyddion hyn gael eu herlyn gan y safonau masnach. Mae’n bosib fod rhai nwyddau sêl yn rhatach oherwydd fod ganddynt fân ddiffygion, felly dylech edrych arnynt yn ofalus iawn. Nid oes raid i’r gwerthwr roi arian yn ôl i chi os ydych yn cwyno am ddiffygion a nodwyd cyn eu prynu, er enghraifft ar arwyddion neu labeli.
|
|
|
7. TOCYNNAU ANRHEG
Mae yna amryw o bobl sydd ddim yn sylweddoli fod tocynnau anrheg ond yn ddilys am amser penodol, fel arfer 12 mis o’r dyddiad prynu, ac fel arfer ni ellir eu newid am arian parod. Mae’n bosib y byddant yn cynnig talebau i chi wrth i chi ddychwelyd nwyddau diffygiol ond nid oes raid i chi eu derbyn gan fod gennych hawl i gael ad-daliad arian parod. Chi biau’r dewis.
8. NWYDDAU AIL-LAW
Pan fyddwch yn prynu nwyddau ar y stryd fawr mae gennych yr un hawliau, ond mae’n rhaid i chi gofio na fydd nwyddau ail-law o’r un ansawdd â nwyddau newydd sbon. Dylech edrych yn ofalus ar y nwyddau cyn eu prynu.
Gallwch ofyn am arian yn ôl neu am gost y gwaith trwsio os yw’r nwyddau’n ddiffygiol, oni bai mai traul yw’r diffyg fel a ddisgwylir o nwyddau ail-law, neu fod y diffygion wedi cael eu dangos i chi neu yn amlwg pan wnaethoch gytuno i brynu’r nwyddau.
Mae gennych lai o hawliau pan fyddwch yn prynu’n breifat. Mewn gwerthiant preifat rhaid i’r nwyddau fod ‘fel a ddisgrifiwyd’ ond nid oes angen iddynt fod o ‘ansawdd foddhaol’ nag yn ‘addas i’w pwrpas’.
9. SIOPA CARTREF
Mae siopa ar y rhyngrwyd yn dod yn boblogaidd iawn ac mae gennych hawliau ychwanegol pan fyddwch yn siopa o’r cartref. Mae yna ambell i fagl hefyd. Dylech brynu gan fasnachwyr cydanbyddedig a sicrhewch fod gennych gyfeiriad a rhif ffôn dilys. Dylech dalu am nwyddau dros £100 gyda cherdyn credyd – mae hyn yn rhoi diogelwch ychwanegol i chi ond gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu o safle diogel pan fyddwch yn rhoi manylion eich cerdyn credyd. Peidiwch byth ag anfon manylion eich cerdyn credyd ar neges e-bost.
Os ydych yn prynu nwyddau neu wasanaethau o gatalog, ar y rhyngrwyd neu drwy unrhyw ffurf arall o werthu o hirbell mae gennych hefyd yr hawl i:
• gael gwybodaeth glir cyn rhoi eich archeb
• gael gwybodaeth ysgrifenedig am y pryniant, gan gynnwys disgrifiad o’r nwyddau, y pris ac unrhyw daliadau archebu neu anfon
• gael ‘cyfnod ystyried’ pan y gellir canslo unrhyw archeb a wnaed heb reswm a derbyn ad-daliad llawn – fel arfer mae hyn yn saith diwrnod gwaith o dderbyn y nwyddau. Mae rhai eithriadau, er engrhaifft, os ydych yn tynnu’r stwff pecynnu ar CDs, DVDs neu gemau cyfrifiadur.
• dderbyn ad-daliad llawn os nad yw’r nwyddau neu’r gwasanaethau yn cael eu darparu erbyn dyddiad a gytunwyd neu cyn pen 30 diwnrod o roi archeb, os na chytunwyd ar ddyddiad.
10. DIOGELWCH CERDYN CREDYD
Os ydych wedi prynu nwyddau ar gerdyn credyd a bod pris ariannol yr eitem yn fwy na £100 (a ddim mwy na £30,000) mae gan y cyflenwr a’r darparwr credyd yr un ymrwymiad cyfreithiol i chi. Mae hyn yn golygu os yw’r cyflenwr yn mynd yn fethdalwr cyn i chi dderbyn eich nwyddau neu fod y contract yn cael ei dorri y gallwch wneud yr un hawliad yn erbyn y cyflenwr. Mae hyn hefyd yn gymwys i eitemau a brynwyd dros y môr.
11. CYNIGION ANHYGOEL
Byddwch yn wyliadwrus bob amser o gynigion sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, oherwydd mae’n bur debyg nad ydynt. Mae hysbysebion camarweiniol neu ddulliau gwerthu yn gallu cynnwys addewidion gwag am beth all y nwyddau eu gwneud, yn cuddio neu adael allan ffeithiau pwysig amdanynt neu yn creu camargraff mewn rhyw fodd arall.
Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin, gofynnwch gwestiynau, a gofynnwch am gael gweld y nwyddau. Dylech hefyd ystyried os fedrwch chi gysylltu â’r gwerthwr yn hawdd os oes problem. Peidiwch â rhuthro i brynu mae’n bosib y byddwch yn difaru.
12. CWYNO
Ewch yn ôl at y gwerthwr gyda thystiolaeth o’r pryniant, peidiwch â gwylltio, a byddwch yn sicr o’ch ffeithiau. Esboniwch beth yw’r broblem a beth yr ydych eisiau iddynt ei wneud a gosodwch gyfyngiad amser i hyn. Os nad ydych yn fodlon, ysgrifennwch lythyr yn cwyno at brif swyddfa’r cwmni neu’r Cadeirydd. Dyfalbarhewch gan efallai y bydd angen i chi anfon llythyr arall. Os ydych yn methu yna cysylltwch â’r Safonau Masnach, eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol neu Consumer Direct (08456 040506)
10 CYNGOR PWYSIG I GOFIO WRTH DDYCHWELYD NWYDDAU AR ÔL Y NADOLIG
1. Ewch yn ôl i’r siop cyn gynted â phosib ond DDIM ar y diwrnod mae’r sêl yn dechrau!
2. Peidiwch â thynnu labeli os ydych yn meddwl y gallai’r nwyddau fod yn anaddas a bod angen eu dychwelyd.
3. Cadwch nwyddau anaddas yn ddiogel ac mewn lle di-fwg os yn bosib.
4. Ewch a’r dderbynneb efo chi – mae llawer o siopau yn gofyn amdani pan fo nwyddau anaddas yn cael eu dychwelyd.
5. Holwch beth yw polisi’r siop. Os dywed y siop mai’r polisi yw cynnig cyfnewid nwyddau neu roi talebau neu nodiadau credyd am nwyddau anaddas MAE HYN YN RHESYMOL.
6. Dylech wybod beth yw eich hawliau. Os ydych wedi prynu nwyddau diffygiol gallwch ofyn am eich arian yn ôl neu i’r eitem gael ei thrwsio neu ei newid. Mae’r hyn sydd gennych hawl iddo yn dibynnu ar amgylchiadau penodol eich cwyn.
7. Cofiwch NID OES RAID i siopau roi ad-daliad ar nwyddau anaddas, oni bai fod hyn wedi ei gytuno cyn i’r nwyddau gael eu prynu.
8. NID YW dweud y gallwch ddod a nwyddau yn ôl o anghenraid yn golygu y bydd y siop yn rhoi ad-daliad i chi. Efallai mai cynnig newid yr eitem neu roi nodyn credyd maent.
9. Mae gan siopau bolisïau gwahanol am nwyddau anaddas. Mae hyn yn gyfreithlon. Yn ôl y gyfraith nid oes raid i siopau gynnig dim pan fo rhywun yn dychwelyd nwyddau anaddas.
10. PEIDIWCH Â CHYNHYRFU – PEIDIWCH Â GWYLLTIO! Peidiwch â bod yn anghwrtais am yr eitem – yn enwedig os yw’r unigolyn a brynodd yr eitem gyda chi. Byddwch yn gwrtais a chyfeillgar gan ddisgwyl i’r cynorthwy-ydd yn y siop eich helpu – fel arfer maent yn barod iawn i wneud hynny! Gwenwch! Mae hyn yn gallu gwneud gwyrthiau.
|
|