NEWYDDION
Wrth groesawu 2007, mi fydd nifer fawr o yrwyr yn ystyried newid car, naill ai yn uwchraddio neu fodel newydd (plât rhif 07 newydd). Isod gweler rhywfaint o gyngor i’w gofio wrth ystyried prynu car newydd.
Cyngor Pwysig Ar Gyfer Prynu Car
• Siopwch o gwmpas. Ewch i nifer gwahanol o ddelwyr i weld beth sydd ganddynt yn eich braced pres.
• Cwblhewch brawf HPI ar y cerbyd cyn prynu neu arwyddo unrhyw gytundeb cyllid.
• Mae hefyd yn syniad cael nifer gwahanol o ddyfynodau yswiriant ar y cerbyd cyn prynu, gan ddefnyddio rhif plât y cerbyd os yn bosib.
• Arolygwch y dogfennau MOT/hanes gwasanaeth os ydynt ar gael – edrychwch allan am anghysondeb yn y milltiredd.
• Ewch am ddreif yn y car a archwiliwch y teiars a chorff y car yn ofalus.
• Gofynnwch a yw’r gwerthwr/modurdy yn gwybod os yw’r car wedi bod mewn damwain, ydi o wedi ei fewnforio neu yn ddilead gan gwmni yswiriant yn ystod unrhyw gyfnod.
• Byddwch yn ymwybodol os ydych yn prynu car ail-law efallai bydd materion traul a gwisgo, yn annhebyg iawn i gar newydd.
• Os ydych yn prynu yn breifat, mae’n hanfodol i fod yn fwy gofalus a chofiwch fod hyn yn lleihau eich hawliau cyfreithiol.
|
|
|
• Sicrhewch eich bod yn gwybod gwerth unrhyw gerbyd yr ydych yn meddwl am fasnachu (trade-in/part-exchange).
• Cyn ymrwymo i brynu car, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn llawn amodau’r Gwerthiant ac unrhyw gytundeb cyllid, gan gynnwys termau blaendal a thaliadau llog.
Mi dderbyniodd Cyswllt Defnyddwyr - llinell ffon genedlaethol a gwasanaeth cyngor defnyddwyr ar-lein wedi ei ariannu gan y llywodraeth sydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol gyfanswm o 27,000 o gwynion am geir ail-law wedi eu prynu gan ddelwyr ceir ail-law rhwng mis Ionawr a mis Medi 2006.
Fe oedd 19,230 (70%) o’r achosion ynglŷn â cherbydau diffygiol, gyda 4,546 (16.7%) o achosion pellach ynglŷn â honiadau camarweiniol neu anwiredd ar lafar.
Mae canllaw prynu car, yn amlinellu’r prif beryglon a materion i’w ystyried, ar gael ar-lein ar safle gwe Cyswllt Defnyddwyr, www.consumerdirect.gov.uk neu cliciwch yma .
Am fwy o gyngor defnyddwyr, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 05 neu medrwch ymweld â www.consumerdirect.gov.uk.
|
|