NEWYDDION
Canllaw i Ddefnyddwyr am Wyliau Parod
Mae Rheoliadau Teithio Parod, Gwyliau Parod a Gwyliau Taith Parod 1992 wedi eu llunio i ddiogelu’r defnyddwyr ac mae llawer o’r amodau yn rhan o God Arferion ABTA (Association of British Travel Agents).
Mae’r rheoliadau yn dweud bod rhaid i drefnydd teithiau sicrhau eich diogelu trwy fod â digon o fondiau yswiriant yn barod, mae hyna yn golygu petai’r cwmni yn mynd i’r wal cyn i chi deithio, fe ddylech gael eich arian yn ol neu, os ydych dramor eisioes, fe fyddech yn medru dychwelyd adref heb daliadau ychwanegol. Os byddant yn mynd i’r wal yn ystod eich gwyliau. Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod y llety y gwnaethoch chi gontractio ar ei gyfer ar gael ac nad yw wedi ei orfwcio. Mae’r rheoliadau’n cynnwys hefyd unrhyw ddatganiadau neu ddisgrifiadau anwir neu anghywir a wneir am y gwyliau, y gwesty neu unrhyw gyfleusterau.
Mae’n rhaid i wyliau sydd yn cynnwys hedfan hefyd gael eu ddiogelu gan ATOL (Air Travel Organisers’ Licence). Os yw daliwr ATOL yn mynd allan o fusnes, mi fydd yr Civil Aviation Authority yn rhoi ad-daliad i fobl sydd ddim yn medru teithio, ac yn talu i’r bobl dramor i orffen eu gwyliau ac hedfan adref.
Dewisiwch drefnwyr teithiau neu gweithredwyr teithio sydd yn aelodau o ABTA (Association of British Travel Agents) neu AITO (The Association of Independent Tour Operators) bob amser. Edrychwch allan am ei logos ar lyfrynnau ac anfonebau.
Os Bydd Pethau’n Mynd o Chwith Cyn i chi Ddechrau Eich Gwyliau:
Os bydd trefnydd y daith yn ceisio gwneud newid sylweddol, fel newid y gwesty neu’r dref wyliau, gallai fod yn groes i’r contract. Dylid rhoi’r dewis i chi ganslo a chael ad-daliad llawn.
Mae’n ddyletswydd ar y trefnydd teithiau i geisio dod o hyd i becyn arall addas o’r :-
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r trefnydd teithiau beth yw eich penderfyniad cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mae anawsterau’n gallu digwydd os oes gwahaniaeth barn ynglŷn â beth yw newid mawr/o bwys ac efallai bydd angen i chi geisio rhagor o gyngor.
Os Bydd Pethau’n Mynd o Chwith yn ystod y Gwyliau
Os gwelwch wedi i chi gyrraedd y lle yr ydych yn treulio eich gwyliau nad yw rhan sylweddol o’r gwasanaethau y contractiwyd ar eu cyfer ar gael, mae’n rhaid i’r trefnydd teithiau wneud trefniadau eraill addas heb godi rhagor o arian er mwyn ceisio rhoi modd i chi barhau â’ch gwyliau. Gallech hefyd fod â hawl iawndal.
Os nad yw’r trefniadau eraill addas hyn yn dderbyniol gennych chi am reswm da, mae’n rhaid i’r trefnydd teithiau gynnig cludiant i fynd â chi adref a rhoi iawndal i chi os yw hynny’n briodol.