NEWYDDION
Cyngor Defnyddwyr Cymru yn croesawu cynlluniau i feithrin medrau trafod arian pobl ifanc
Mae cynlluniau newydd i feithrin medrau pobl ifainc yng Nghymru i drafod eu harian wedi’u croesawu gan Gyngor Defnyddwyr Cymru.
O dan gynigion newydd gan Lywodraeth y Cynulliad, o fis Medi 2008, bydd addysg cyllid personol yn cael lle mwy blaenllaw yng nghwricwlwm yr ysgolion.
Mae gwaith ymchwil diweddar gan Gyngor Defnyddwyr Cymru wedi pennu bod angen i wella medrau trafod arian y boblogaeth yng Nghymru.
“Mae lefelau dyled bersonol yng Nghymru yn uwch na’r cyfartaledd ym Mhrydain ac mae llawer o ddefnyddwyr yn ansicr wrth drafod eu harian,” dywedodd Lindsey Kearton, Uwch Swyddog Polisi, Cyngor Defnyddwyr Cymru.
“Mae’n gwaith ymchwil ni’n dangos bod chwarter o bobl yng Nghymru (24%) yn dweud eu bod nhw’n ofnus neu’n drysu wrth drafod â banciau, cymdeithasau adeiladu a sefydliadau ariannol eraill.
|
|
|
“Mae hi’n achosi rhagor o bryder bod un o bob pump (20%) o oedolion yn cyfaddef iddyn nhw ymrwymo i wasanaeth ariannol heb ddeall yr amodau a’r telerau i gyd
“Gwnaethon ni bennu bod mwy na 8 allan o bob 10 (83%) o oedolion yng Nghymru o’r farn hefyd y byddai dysgu am gyllid personol yn yr ysgol wedi rhoi rhagor o hyder iddyn nhw drafod eu harian yn oedolion.
“Mae Cyngor Defnyddwyr Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros ragor o bwyslais ar addysg cyllid personol mewn ysgolion am nifer o flynyddoedd bellach,” aeth Ms Kearton yn ei blaen i ddweud.
“Gyda lefelau dyled bersonol yn codi a’r byd gwasanaethau ariannol yn gynyddol gymhleth, mae’n bwysig bod pobl yn meddu ar yr wybodaeth a’r medrau priodol i drafod eu harian,” ychwanegodd Ms Kearton.
“Bydd blaenoriaethu addysg cyllid personol mewn ysgolion yn un o’r ffyrdd o ofalu bod plant heddiw yn gwybod rhagor am drafod eu harian ac yn fwy hyderus wrth wneud hynny yn oedolion.
|
|